Awgrymiadau Arbed Ynni

Mae llawer o newidiadau bach y gallwch eu gwneud i helpu i leihau eich biliau nwy, trydan a dŵr. Gall pethau bach fel sychu dillad ar y lein lle bynnag y bo'n bosibl yn lle defnyddio peiriant sychu dillad, troi'r goleuadau i ffwrdd pan fyddwch chi'n gadael ystafell, neu gael cawod yn lle bath, oll arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn i chi.

Nid oes unrhyw beth gennych i'w golli, felly rhowch gynnig ar yr awgrymiadau hyn, ac arbedwch arian!


 

Canfod faint ydych chi'n ei ddefnyddio

Hyd yn oed pan fyddwch chi'n derbyn eich bil trydan gall fod yn eithaf anodd cyfrifo faint o ynni rydych wedi'i ddefnyddio. Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cynllun newydd i'ch helpu i gadw llygad ar eich bil. Gallwch fenthyg mesurydd bach gan eich llyfrgell leol, am ddim, sy'n dangos faint o drydan rydych chi'n ei ddefnyddio ar unrhyw adeg, a faint mae'n ei gostio i chi. Pan fyddwch chi'n rhoi'r tegell ymlaen neu'n rhoi'r peiriant sychu dillad i ffwrdd byddwch yn gallu gweld y newid o ran eich defnydd o drydan, a chael syniad go lew o sut mae eich goleuadau, offer ac eitemau trydanol eraill yn effeithio ar eich bil. Gall hyn eich helpu i newid sut rydych chi'n defnyddio rhai eitemau er mwyn lleihau eich costau.

Mae'r mesurydd yn hawdd iawn i'w osod - y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ei glipio ar gebl trydanol wrth ymyl eich mesurydd, a chewch ddarlleniad yn y fan a'r lle.

Chwiliwch am y fargen orau

Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau cysylltwch â'ch cyflenwyr nwy a thrydan i weld os oes unrhyw beth y gallant ei wneud i helpu. Efallai y byddant yn gallu cynnig bargen well i chi neu awgrymu ffyrdd o leihau eich biliau, er enghraifft drwy dalu drwy ddebyd uniongyrchol sy'n aml yn rhatach.

Pan glywch chi eu cynnig gorau, gallwch ei gymharu â chwmnïau ynni eraill. Ceir gwefannau cymharu prisiau y gallwch eu defnyddio i wneud hyn - i gael rhagor o wybodaeth am sut i newid cliciwch yma.

Derbyn cyngor

Os byddai'n well gennych siarad â rhywun yn uniongyrchol gallwch ffonio Llinell Gymorth yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512 012, Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes ar 0800 336 699 neu Asiantaeth Ynni De-ddwyrain Cymru ar 0800 622 6110 i gael cyngor annibynnol am ddim.